Cymysgedd amrywiol o sefydliadau
Mae ystod eang o fusnesau tenantiaid ar y safle, o Fentrau Cymdeithasol i wasanaethau i weithrediadau masnachol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn rhentu man gwaith, mae gennym amrywiaeth o opsiynau gwahanol, o swyddfeydd sengl, dwbl neu driphlyg, i weithdai, compowndiau awyr agored, a cheginau.
Rydym yn cynnig prydlesi tymor hwy (5 mlynedd) i roi sicrwydd i chi, neu brydlesi treigl tymor byr i roi hyblygrwydd i chi.
Darperir Wi-fi ar draws y safle ac mae wedi'i gynnwys yn eich tâl gwasanaeth, gyda phecynnau TGCh pwrpasol hefyd ar gael.
Os hoffech chi gael gwybod mwy am rentu gofod swyddfa neu weithdy, cysylltwch â rheolwr@calonyfferi.org i ddarganfod beth sydd ar gael.
Rydym yn angerddol am gefnogi busnesau lleol, felly byddwn yn gweithio gyda chi i wneud i'ch gofod weithio i chi a'ch busnes
© 2020 Cedwir pob hawl