Gofod Cynnes, Croeso Cynnes
Dewch i dreulio amser yn ein Lolfa Gymunedol lle cewch gyfle i sgwrsio, darllen, chwarae gemau bwrdd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau dewisol ochr yn ochr ag aelodau eraill o'n cymuned.
Mae croeso i bawb, yn ifanc, yn hŷn, yn deuluoedd ac yn unigolion.
Mae te a choffi ar gael am ddim.
Ar agor bob Dydd Mercher, Dydd Gwener a Dydd Sul 10.00yb-4.00yp.
Gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin, mae Calon y Fferi yn sefydlu Lolfa Gynnes tan ddiwedd mis Mawrth 2023.