Rydym yn Recriwtio Rheolwr Canolfan

Rhannu gyda Ffrind

Ydych chi'n angerddol am gymuned?

Ydych chi eisiau cyfle i fod yn rhan o ddatblygu a siapio sefydliad cyffrous a bywiog? 

Ydych chi'n feddyliwr strategol gyda dawn sefydliadol, dealltwriaeth ariannol a sgiliau pobl da?

Mae Canolfan Gymunedol Calon y Fferi yng Nglan-y-fferi, Sir Gaerfyrddin yn chwilio am Reolwr Canolfan i gymryd cyfrifoldeb cyffredinol am redeg y sefydliad o ddydd i ddydd, ei ddigwyddiadau a'i brosiectau. Gan weithio gyda chorff ymroddedig o Ymddiriedolwyr byddwch yn rheoli tîm bach o bobl a phrosiectau, gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor a rhaglen amrywiol o brosiectau a digwyddiadau cymunedol.