Mae Canolfan Gymunedol Calon y Fferi yn rhan o Grŵp Menter Gymdeithasol Glanyfferi, yn cefnogi cymuned a busnes lleol. Rydym yn recriwtio Gofalwr i hwyluso rhediad esmwyth y Ganolfan Gymunedol sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio'n hyblyg, o leiaf 10 awr yr wythnos (gan gynnwys y tu allan i oriau agor arferol), gyda'r potensial am oriau ychwanegol yn ôl yr angen.
Prif nodau’r swydd hon fydd cynorthwyo gyda chynnal a chadw cyffredinol y Ganolfan Gymunedol, gan weithio o fewn tîm ehangach o staff i sicrhau bod y ganolfan yn lân ac yn ddiogel, tra’n hyrwyddo perthnasoedd cytûn yn unol ag ethos Grŵp Menter Gymdeithasol Glanyfferi. . Wrth i'r Ganolfan ddatblygu, bydd angen gallu addasu i'r rôl.